Archif Newyddion

26 Mai 2010 - Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru

Y mae’r Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc (CYPRN) yn darparu isadeiledd cenedlaethol ar gyfer ymchwil graddfa fawr mewn iechyd plant. Y mae’r Rhwydwaith ar hyn o bryd yn ymwneud â thair canolfan Ymchwil sy’n cydlynu’r gwaith o recriwtio cleifion, cyfranogwyr neu dimau clinigol ar gyfer astudiaethau ymchwil graddfa fawr a ‘fabwysiadwyd’ gan y Rhwydwaith. I gydategu’r Canolfannau Ymchwil, y mae’r Rhwydwaith ar hyn o bryd yn ymofyn cynigion i sefydlu amryw o Grwpiau Datblygu Ymchwil. Nod cyllid y Grwpiau Datblygu Ymchwil yw cymorth grŵp amlddisgyblaethol o bobl sydd â diddordeb mewn datblygu cynigiad ymchwil ar gyfer cais am grant sylweddol sy’n rhoi sylw i gwestiwn ymchwil unigol neu raglen o waith ymchwil mewn iechyd plant a phobl ifanc. Nid yw’r arian a ddarperir i fod i alluogi grwpiau i gynnal ymchwil ond i’w galluogi hwy i ysgrifennu a chyflwyno cais am grant ar gyfer prosiect ymchwil graddfa fawr.

Gweler yr atodiadau am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cyfle ac am ffurflem ymgais. Y dyddiad cau am ymgeisiadau yn y 25 Mehefin 2010.

17 Tach 2009 - Grŵpiau Datblygu Ymchwil

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Cymru yn galw am bobl i sefydlu Grŵpiau Datblygu Ymchwil mewn ymchwil iechyd plant. Mae nhw’n edrych am rhwng 2-4 Grŵp. Gall pob Grŵp Datblygu Ymchwil ymgeisio am lan at £2,000 (i gael ei defnyddio erbyn 31 Mawrth 2010). Amcan pennodol y cyllid yma yw i annogi’r datblygiad o ymgeisiadau am gyllid ymchwil helaeth.

Gweler yr atodiadau am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cyfle ac am ffurflem ymgais. Y dyddiad cau am ymgeisiadau yn y 30ain o Dachwedd 2009.

16 Ion 2009 - Cyfarfod Blynyddol Cynnwys Pobl 2009

Bydd ein Cyfarfod Blynyddol yn 2009 yn dathlu cyfraniad pobl at waith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn dangos enghreifftiau go iawn o gynnwys cleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac ymchwilwyr mewn ymchwil.

7 Ion 2009 — WCVA yn darparu cefnogaeth a chyllid i bobl gymryd rhan mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynnwys Pobl wedi datblygu'r Gronfa Hybu Cyfranogiad, a ddarperir drwy WCVA, i ddarparu cyllid i bobl allu cymryd rhan deg a gweithredol mewn grwpiau datblygu ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darllen mwy...

15 Rhag 2008 — 6ed Cynhadledd Genedlaethol INVOLVE Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil – ei wneud yn iawn, a gwneud gwahaniaeth

Mae INVOLVE yn hyrwyddo cyfraniad y cyhoedd mewn ymchwil yn y GIG, yn iechyd y cyhoedd ac mewn gofal cymdeithasol ac fe’i hariennir drwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd. Ar 11eg-12fed Tachwedd daeth dros 350 o bobl ynghyd ar gyfer 6ed Cynhadledd Genedlaethol INVOLVE ym Mhrifysgol Nottingham i drafod Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn Ymchwil. Darllen mwy...

28 Hyd 2008 — Ymateb Cynnwys Pobl:Involving People i Ymgynghoriad Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu ar y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ail argraffiad, 2008

Ymateb Rhwydwaith a Grŵp Cynghori Cynnwys Pobl:Involving People yw hwn sy’n cynnwys cleifion, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaethau, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd. Cliciwch yma