Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Tystiolaeth dros Newid: Cymryd rhan mewn ymchwil i lywio polisi a thrawsnewid ymarfer
4 Maw 2010Ar 28ain Ionawr 2010, gwnaeth Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl Cymru, Cynnwys Pobl a Hafal gynnal digwyddiad ar y cyd a dynnodd ynghyd ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Nod y diwrnod oedd sefydlu grŵp arbenigol defnyddwyr-ymchwilwyr a fyddai’n datblygu cynigion o ansawdd uchel ar gyfer ymchwil sy’n gadarn yn fethodolegol ac wedi’i anelu at lywio datblygiad polisi a thrawsnewid ymarfer.
I ddechrau, cafwyd anerchiadau gan y prif siaradwyr Dr Angela Sweeney a Dr Louise Morgan yn sôn am eu gwaith fel ymchwilwyr ym maes defnyddwyr/goroeswyr. Gwnaethant hefyd egluro’r modelau gwahanol ar gyfer cynnwys pobl mewn ymchwil ymhlith defnyddwyr/goroeswyr. Wrth i’r syniadau ddechrau llifo, llwyddodd y cynadleddwyr i lunio rhestr o bynciau y gellid eu datblygu i geisiadau am gyllid a fyddai’n addas i’w cyflwyno i gyrff cyllido mawr. Casglwyd y syniadau a chawsant eu rhannu i dair thema gyda’r bwriad o'u datblygu’n gynigion ymchwil, sef: effaith materion Iechyd Meddwl ar ofalwyr; triniaeth, meddyginiaeth a sgil effeithiau; ofn - rhwystrau rhag cymryd rhan.
Yn y prynhawn, rhoddodd y Therapydd Rob Turner a Mary Morris gyflwyniad hynod o wreiddiol yn sôn am eu profiad o gymryd rhan mewn ymchwil Iechyd Meddwl. Gwnaethant adrodd yr un stori, ond o bersbectifau gwahanol, gan ddatgelu rhai o’r llwyddiannau a’r methiannau wrth weithio fel partneriaeth.
I gloi, cyflwynwyd y tri chwestiwn ymchwil i’r grŵp a gwnaeth llawer o’r cynadleddwyr fynegi ymrwymiad i fwrw ymlaen â’r syniadau.
Dywedodd Phil Jones, Cymrawd Datblygu Portffolio Ymchwil yn Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl Cymru: Roedd y gweithdy’n llwyddiant ysgubol. Rhoddodd lwyfan i ofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth ac ymchwilwyr proffesiynol rannu eu profiadau o gymryd rhan mewn ymchwil. Gwnaeth hefyd dynnu sylw at rôl allweddol ymchwilwyr sydd wedi bod yn ddefnyddwyr gwasanaeth neu sy’n ddefnyddwyr gwasanaeth ar hyn o bryd oherwydd maent mewn sefyllfa unigryw gan eu bod yn gallu gweld yr ymchwil o’r ddwy ochr. Maent yn deall anghenion a dyheadau defnyddwyr gwasanaeth, ond ar yr un pryd, maent yn ymwybodol o’r rhwystrau a’r cyfyngiadau ar ymchwilwyr gan drefniadau llywodraethu ymchwil, moeseg ymchwil a chyrff cyllido ymchwil. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at fath newydd sbon o ymchwil sy’n adlewyrchu amcanion defnyddwyr gwasanaeth, ymchwilwyr, cyrff cyllido a llunwyr polisi.