Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Y fframwaith llywodraethu ymchwil yng Nghymru yn sefydlu pwysigrwydd Cynnwys Pobl mewn ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
10 Tach 2009Mae ail rifyn y Fframwaith Rheoli Ymchwil ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn nodi: "y dylai cleifion, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau perthnasol a’u grwpiau cynrychioliadol gael eu cynnwys lle bynnag y bo modd, a chyn gynted â phosibl yn y gwaith o lunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar ymchwil. Mae traddodiad hir o’u cynnwys ym maes ymchwil gofal cymdeithasol."
Mae’r fframwaith hefyd yn cyfeirio’n benodol at y prosiect Cynnwys Pobl: "Mae Cynnwys Pobl, rhwydwaith ymchwil Cymru ar gyfer cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, wedi sefydlu’r egwyddor y dylai dau gynrychiolydd o leiaf fod yn gysylltiedig ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol".
Meddai Judith Oades, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Cynnwys Pobl: " Mae Cynnwys Pobl yn gweithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr a chleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd i alluogi pobl i ymwneud yn weithredol mewn ymchwil o'r camau cyntaf yn hytrach na bod yn gyfranogwyr goddefol. Yr ydym yn hynod falch o gael ein crybwyll yn y ddogfen fframwaith sy’n gosod y safonau ar gyfer llywodraethu da ac yn argymell cynnwys pobl "ble bynnag y bo’n bosibl" a "mor gynnar â phosibl" yn y broses ymchwilio. Teimlwn y bydd yn arwain at fwy o gyfranogaeth a fydd yn ei dro’n gwella safon yr ymchwil yng Nghymru a’i effeithlonrwydd o ran gwella triniaeth a gwasanaethau ar gyfer pobl yng Nghymru."
Hyd yma, mae Cynnwys Pobl wedi cyfeirio dros 300 o aelodau’r rhwydwaith (cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd) i gymryd rhan mewn dros 50 o wahanol weithgareddau ymchwil.
Gellir llwytho’r fframwaith i lawr o http://wales.gov.uk/docs/dhss/publications/governance/090929researchen.pdf
Noddir Cynnwys Pobl gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Cymru (WORD) ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n bartneriaeth rhwng Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru (CRC Cymru), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac Ysgol Gwyddor Iechyd, Prifysgol Abertawe. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cynnwys Pobl yn www.involvingpeople.org.uk neu cysylltwch â Lynne Thomas ar 029 20 431771 neu e-bostiwch lthomas@wcva.org.uk