Newyddion diweddaraf
6ed Cynhadledd Genedlaethol INVOLVE Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil – ei wneud yn iawn, a gwneud gwahaniaeth
11 - 12 Tach 2008Mae INVOLVE yn hyrwyddo cyfraniad y cyhoedd mewn ymchwil yn y GIG, yn iechyd y cyhoedd ac mewn gofal cymdeithasol ac fe’i hariennir drwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd. Ar 11eg-12fed Tachwedd daeth dros 350 o bobl ynghyd ar gyfer 6ed Cynhadledd Genedlaethol INVOLVE ym Mhrifysgol Nottingham i drafod Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn Ymchwil.
Agorwyd y gynhadledd gan Joan Saddler, OBE, Cyfarwyddwraig Genedlaethol Materion Cleifion a’r Cyhoedd yr Adran Iechyd, a gododd bynciau megis sicrhau bod cynhwysiant, cyfranogiad ac ymgysylltiad i bawb yn y broses o gomisiynu a darparu gwasanaethau gofal iechyd. Cafwyd rhagor o gyflwyniadau, gweithdai a phosteri gan siaradwyr o gefndiroedd amrywiol, o ddefnyddwyr gwasanaeth i ymchwilwyr defnyddwyr gwasanaeth, o ddarlithwyr i gynrychiolwyr cyllido. Arddangoswyd posteri gan y Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc, y Rhwydwaith Ymchwil Thematig ar gyfer Triniaeth Frys a Heb ei Threfnu, y Rhwydwaith Ymchwil Diabetes, Cynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad, Y Ganolfan Ragoriaeth mewn Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth i Wella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) a Chynnwys Pobl.
Roedd presenoldeb cryf o Gymru yn y gynhadledd, ac roedd defnyddwyr gwasanaeth sy’n aelodau o’r Rhwydwaith Cynnwys Pobl hefyd yn bresennol, ynghyd ag aelodau o dîm Cynnwys Pobl ac o Gydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru, a chafwyd adborth ganddynt:
"Roeddem wedi mwynhau cyfraniad Angela Barnard yn fawr, sef y Gweithdy ‘Rydyn ni yn yr ystafell, ond pa effaith rydyn ni’n ei gael?’. Gwyddai sut deimlad yw bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth, ac roedd ganddi wybodaeth helaeth am gymryd rhan."
"Rydw i wedi dysgu mwy am y gwahanol ffyrdd o gymryd rhan, sut mae ymchwilwyr yn gweld y defnyddwyr gwasanaeth a sut mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn gweld ymchwilwyr."
"Mae’r digwyddiad hwn wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o hyrwyddo llais gwybodaeth a phrofiad y cyhoedd lle bynnag a phryd bynnag y bydd modd."
Ar ddiwedd deuddydd cyffrous, cyflwynodd Peter Beresford OBE, Cyfarwyddwr Canolfan Cyfranogiad Dinasyddion Prifysgol Brunel a Chadeirydd Llunio Ein Bywydau, grynodeb o’r materion newydd a’r meysydd i’w datblygu. Trafododd bynciau megis gwerthuso effaith Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd mewn ymchwil, y mater parhaus ynghylch talu am gymryd rhan a’r angen i wella mynediad at gymryd rhan i bawb. Roedd y Gynhadledd yn gyfle i’r aelodau rannu gwybodaeth a dysg a ffurfio cysylltiadau gyda phobl eraill sy’n ymwneud â gweithgareddau tebyg, gan roi llwyfan i ymchwil i Gynnwys Cleifion a’r Cyhoedd ym maes ymchwil.
Gan Natalie Simon, Swyddog Cynnwys Pobl ac Erica Howells, Swyddog Gwybodaeth a Chyfathrebu Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru