Anna Coote

Anna Coote 04



e-bost

Swyddogaeth y Gweinyddydd Cynnwys Pobl:
Rhan bwysicaf fy ngwaith yw bod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Cynnwys Pobl - naill ai ar gyfer ceisiadau neu ar gyfer ymholiadau gan ymchwilwyr, y cyhoedd neu aelodau o’r Rhwydwaith. Rwy’n gyfrifol am amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys helpu gyda chyfarfodydd y Grŵp Cynghori, prosesu treuliau, trefnu lleoliadau, teithio a llety. Fi sydd hefyd yn dod â’r e-fwletinau misol at ei gilydd, ac rwyf wrthi ar hyn o bryd yn diweddaru cynnwys gwefan Cynnwys Pobl. Pan fyddwn yn hysbysebu cyfleoedd ar gyfer Cynnwys Pobl, rwy’n casglu datganiadau o ddiddordeb ac yn cofnodi’r wybodaeth ar ein cronfa ddata. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ddarparu a chofnodi ffurflenni adborth, sy’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r Rhwydwaith leisio eu barn am y digwyddiadau, yr hyfforddiant, a’r ymchwil y maent wedi bod yn cymryd rhan ynddo.

Beth oeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Cynnwys Pobl:
Cyn ymuno â Cynnwys Pobl bûm yn gweithio mewn amrywiol o amgylcheddau - gan gynnwys Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Cymorth i Fenywod Caerdydd a BBC Cymru. Fe ddes i Gaerdydd yn y flwyddyn 2000 i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwyf wedi aros yma ers hynny!

Beth hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto:
Mae na gymaint o bethau - ond mi fyswn wrth fy modd yn cael gweld Goleuadau’r Gogledd. Bu bron i mi eu gweld nhw yn y Ffindir ond roedd hi’n rhy gymylog!

Hoff ddyfyniad enwog:
‘Gentlemen, you can't fight in here, this is the war room' - Peter Sellers fel Y Llywydd yn Dr Strangelove.