Colin Thomson

Beth ydw i’n ei wneud fel aelod o Grŵp Ymgynghorol CP:

Is-Gadeirydd y grŵp, ac rwyf yn ymwneud â TRUST ac WERN sef dau grŵp ymchwil sy’n ymwneud â gofal heb ei drefnu ac epilepsi. Rwy’n gwasanaethu ar y grŵp fel cynrychiolydd y cyhoedd/cleifion ac yn ceisio gwthio ymwneud cleifion ag ymchwil, rhywbeth y credaf sy’n wirioneddol anhepgor.

Pryd a pham yr ymunais â Chynnwys Pobl:

Yn 2007, soniodd yr Athro Helen Snooks o Brifysgol Abertawe, cydweithwraig i mi ar y grŵp Ymchwil a Datblygu Ambiwlansys, wrthyf am Gynnwys Pobl ac yr oedd hi o’r farn y byddwn yn aelod gwerthfawr o’r grŵp gan fod gennyf brofiad o ymwneud ag ymchwil.

Beth oeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Chynnwys Pobl:

Cynrychiolydd y cyhoedd/cleifion dros Gymru ar Grŵp Cenedlaethol Ymchwil ar y cyd, a sefydlwyd gan yr Adran Iechyd i oruchwylio gosod cluniau a phen-gliniau newydd, ac i sicrhau fod pob llawdriniaeth yn y DU yn cael ei chofnodi ar gronfa ddata.

Cynrychiolydd y cyhoedd/cleifion ar grŵp Ymchwil a Datblygu Ambiwlansys Cymru Gyfan. Un o brif agweddau’r ymchwil fu sefydlu y dylai 50% o achosion sy’n mynd i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, gael eu trin mewn man arall.

Bum yn ymwneud drwy fy mywyd â'r GIG, gan weithio fel uwch nyrs ac ar y diwedd roeddwn yn gweithio i Unsain, yn cynrychioli gweithwyr iechyd ledled Cymru.

Beth hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto:

Gweithio’n barhaus i sicrhau fod cleifion yn bobl yr un fath â ni ac y dylid eu trin gyda pharch ac urddas. Yn anffodus, rwy’n parhau i ddod ar draws achosion lle bydd barn y cleifion yn cael eu hanwybyddu’n rheolaidd, neu’n cael eu trin fel pe baent yn gwybod dim.

Hoff ddyfyniad enwog:

"Roedd eich llawdriniaeth yn llwyddiant ysgubol". Thomas Hollier, y llawfeddyg a roes driniaeth i Samuel Pepys i dynnu carreg o’i bledren. Yn anffodus, o ganlyniad bu'n dioddef o anymataliaeth, ac aeth hefyd yn analluog, a thorrodd safle'r llawdriniaeth i lawr yn ddiweddarach. Fodd bynnag, wedi hynny dathlodd saith mlynedd o fod wedi goroesi wedi’r llawdriniaeth.