Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Judith Oades
Yr hyn yr wyf yn ei wneud fel aelod o Grŵp Cynghori Cynnwys Pobl:
Yr wyf yn Gadeirydd a byddaf yn mynychu cyfarfodydd y Grŵp, a chyfarfodydd a chynadleddau OSG. Yr wyf hefyd yn aelod o rwydwaith Cynnwys Pobl
Pryd a pham yr ymunais â Chynnwys Pobl:
Ymunais â Chynnwys Pobl bron i dair blynedd yn ôl ar ôl cwrdd â chyfarwyddwr Cynnwys Pobl mewn cynhadledd ym Mangor i ledaenu gwybodaeth am brosiect ymchwil yr oeddwn yn gweithio arno gydag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor. Cysylltodd Age Concern â mi ynghylch y prosiect hwn. Ymunais yn y gobaith y gallwn wneud rhywbeth a fyddai’n helpu i wella bywydau ac iechyd pobl eraill.
Yr hyn yr oedden yn ei wneud cyn Cynnwys Pobl:
Yr wyf yn briod, bûm yn gofalu am fy nain am 28 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais bedwar plentyn, bûm yn gweithio ac yn astudio: Gerontoleg ym Mhrifysgol Surrey (tua 1988 ni allwn gwblhau’r cwrs oherwydd salwch), Cwrs Gofal yn y Gymuned yng Ngholeg Twickenham, City & Guilds lefel 2 N.V.Q mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion yn y Gweithle, City & Guilds lefel 3 N.V.Q mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion yn y Gweithle, Dyfarniad Aseswyr City & Guilds A 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion yng Ngholeg Menai.
Ers symud i Ogledd Cymru ac fel gwirfoddolwr gyda Age Concern yr wyf wedi gweithio ag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ar y prosiect Rural Wide, bûm yn mynychu Hyfforddiant Gwirfoddolwyr mewn ymchwil Cyrsiau Byr, Prifysgol Bangor / Age Concern, Gerontoleg Gymdeithasol, Technegau Cyfweld, Dadansoddi Data. Yr wyf wedi bod yn aelod o Grŵp Cynghori Cynnwys Pobl ers dwy flynedd a hanner bellach ac yr wyf yn cadeirio’r Grŵp ar hyn o bryd. Yr wyf yn awr yn gweithio ag ymchwilwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe ar brosiectau ymchwil.
Yr hyn yr hoffwn ei wneud ond nad wyf wedi’i wneud eto:
Teithio i wledydd eraill i weld sut maent yn cynnwys pobl mewn ymchwil.
Hoff ddyfyniad:
Dim i’w wneud ag ymchwil ond, "Y ffordd orau i gadw rhywun yw drwy adael iddynt fynd." Yr wyf yn hoffi hwn oherwydd os gwnewch adael iddynt fynd maent yn debygol o ddychwelyd, ond os ceisiwch ddal gafael ynddynt byddant yn amharod i ddod yn ôl.