Involving People Evaluation 2009 - 347 KB
Crynodeb Lleyg Gwerthusiad Cynnwys Pobl 2009 - 393 KB
Hoffech chi gymryd rhan mewn ymchwil? Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r CYFLE iawn.
Natalie Simon
Swyddogaeth y Swyddog Cynnwys Pobl:
Recriwtio, hyfforddi a chefnogi aelodau Rhwydwaith Cynnwys Pobl, er mwyn hwyluso’r broses o gynnwys aelodau’r rhwydwaith ym mhob rhan o’r broses ymchwil ar gyfer astudiaethau unigol a recriwtio, hyfforddi a chefnogi’r Grŵp Cynghori. Gweithio'n agos â Rhwydweithiau Ymchwil Thematig, INVOLVE a grwpiau eraill sy’n gysylltiedig â Rhwydweithiau Ymchwil Glinigol y DU. Hefyd, hyrwyddo Cynnwys Pobl ymysg grwpiau rhanddeiliaid drwy fynd i gyfarfodydd, rhoi cyflwyniadau, ysgrifennu erthyglau i gylchlythyrau a gweithgareddau eraill. Llunio gwybodaeth arweiniol am gynnwys pobl ar gyfer ymchwilwyr, rheolwyr ymchwil a chleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sy’n ymwneud â llywodraethu ymchwil.
Beth oeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Cynnwys Pobl
Graddiais ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2002 gyda BSc mewn Seicoleg. Symudais i Lundain wedyn i weithio yn Swyddfa Ymchwil y Gymdeithas Strôc. Treuliais rywfaint o amser yn teithio o amgylch y byd cyn dychwelyd i Lundain i weithio i’r adran ymchwil Iechyd y Cyhoedd a Phoblogaethau yn Ymddiriedolaeth Wellcome. Yn 2007, symudodd fy ngŵr a minnau’n ôl i Gaerdydd, a dechreuais ar fy swydd bresennol yn Cynnwys Pobl. Rwyf wedi dychwelyd i'r gwaith yn ddiweddar ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth.
Beth hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto:
Fy mreuddwyd fawr yw adeiladu ein tŷ eco ein hunain fel teulu a byw'n hunangynaliadwy. Byddwn wrth fy modd yn deifio yn yr Azores! A byddwn wrth fy modd yn dysgu sgïo hefyd!
Hoff ddyfyniad enwog:
"I am a Bear of Very Little Brain, and long words bother me" Winnie the Pooh.