Philip Bell

Beth ydw i’n ei wneud fel aelod o Grŵp Ymgynghorol CP:

Newydd ymuno â'r Grŵp Ymgynghorol yr ydw i, felly rwy’n dal i geisio cael gafael ar bethau. Rwy’n edrych ymlaen i allu cyfrannu tuag at dwf y mudiad, fel bod ymchwilwyr yn gweld Cymru fel ardal i gynnal eu gwaith ymchwil gyda banc o bobl leyg "hyfforddedig" yn barod i chwarae rhan. Mae gan aelodau’r cyhoedd sgiliau, profiad a gwybodaeth i’w dwyn i faes ymchwil meddygol ac iechyd, ac rwy’n gobeithio y gallwn helpu mwy o’r bobl hynny na chlywir eu llais ond yn anaml, i ddod yn gysylltiedig.

Pryd a pham yr ymunais â Chynnwys Pobl:

Yn 2005, rhoddwyd 9500 o grantiau ymchwil sef cyfanswm o £950m (BMJ 2006). Fy niddordeb mawr i yw sicrhau fod aelodau o’r cyhoedd yn cael cyfle i roi mewnbwn nid yn unig i’r prosiectau ymchwil hyn, ond hefyd yn cael llais o ran pa ymchwil a wneir. Rwy’n gobeithio y bydd bod yn rhan o Gynnwys Pobl yn fy ngalluogi i lywio mwy o aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan. Ar yr un pryd, sicrhau fod ymchwilwyr yn ymwybodol o’r ddawn, y profiad a'r cyfraniad y gall aelodau o'r cyhoedd eu dwyn i brosiect ymchwil.

Beth oeddwn yn ei wneud cyn ymuno â Chynnwys Pobl:

Yn wreiddiol, hyfforddais yn nyrs yn y Llu Awyr, ond gorfu i mi adael ar ôl 9 mlynedd o wasanaeth oherwydd gwaeledd. Cefais yrfa gymysg, gan weithio gyda chwmnïau fferyllol a chwmnïau megis Banc Lloyds TSB lle’r oeddwn yn uwch ddadansoddwr systemau. Ymddeolais yn gynnar yn 50 oed. Cefais ddigon ar fy ymddeoliad! Yna cyfunais fy Noethuriaeth (Cymdeithaseg) â gwirfoddoli i elusen, ac wedyn bum yn gweithio iddynt. Rwyf wedi gweithio i elusennau megis Parkinson’s, Steps ac Emmaus. Fy swydd olaf oedd Prif Swyddog (dros gyfnod mamolaeth) i Gyngor Iechyd Cymuned. Rwyf wedi ymddeol go iawn erbyn hyn ar wahân i’m hymwneud ag ymchwil feddygol ac iechyd fel person lleyg.

Beth hoffwn ei wneud, ond nad wyf wedi’i wneud eto:

Rwyf wedi gwneud llawer o bethau yn ystod fy mywyd – teithio’r byd, cwrdd â phobl enwog, ond nid wyf erioed wedi ymweld â chanolfan noethlymunwyr – gyda’r siâp sydd arnaf, rwy’n amau ei bod yn rhy hwyr erbyn hyn?

Hoff ddyfyniad enwog:

"Yr wyf wedi darllen papurau newydd yn awchus. Dyna’r unig ffordd yr wyf yn cael ffuglen barhaus." Aneurin (Nye) Bevan 1897 -1960 Sefydlydd y GIG.